22682 - Operational Support Officer
United Kingdom • Permanent • Competitive
Back to Job Search

22682 - Operational Support Officer

New Easy Apply
United Kingdom On-site Permanent 13 Applications
Competitive
Full-time
Posted 25 Sep 2026
Expires 25 Oct 2026

Job description

Proud to serve. Proud to keep justice going.

Our Support Officers play a critical role, providing excellent administrative support and customer service to court users, judiciary, and management.

About us

HM Courts & Tribunals Service (HMCTS) is responsible for the administration of criminal, civil and family Courts and Tribunals in England and Wales. Our roles support our court users and colleagues within HMCTS, where people and businesses access potentially life-changing justice. We’re looking for individuals who are committed to public service and making a difference in people’s lives to deliver justice. If you are interested in developing a career with a real purpose, please apply.

Your role

Crown Court Admin Officers are responsible for management of criminal digital files in preparation for hearings involving correspondence and general enquiries.

The Crown office handles with enquiries from criminal justice agencies, solicitors, barristers and public via post, email, telephone and face to face.

Deal with full range of serious criminal work as well as management of jurors.

You will be assigned to teams to carry out a variety of general administrative duties to progress cases through the court/tribunal system or provide support to other functions within HMCTS.

Your skills and experience

  • Friendly and approachable manner with excellent customer service skills.
  • Ability to multitask, whilst working in a fast-paced environment.
  • Good written and verbal communication skills.
  • IT proficient with the ability to learn and adapt to different technologies and software packages.
  • Excellent organisational skills.

This is a court‑based role covering both office and courtroom environments; therefore, hybrid working will not be considered.

Further details:

These operational roles are customer facing, requiring successful applicants to be office based to provide HMCTS services to the public. Standard full time working hours are 37 hours per week. HMCTS welcomes part-time, flexible and job-sharing working patterns, where they meet the demands of the role and business needs and are agreed prior to appointment. All applications for part-time, flexible and job-sharing working patterns will be considered in accordance with the MoJ’s Flexible Working policy.

Skilled Worker Visa - This role is not eligible for new Skilled Worker visas in accordance with the current immigration rules.

From 22 July 2025, the Government increased the salary threshold and skills level for Skilled Worker visas. This role does not meet the eligibility criteria for sponsorship in accordance with the current immigration rules if you looking to apply for a Skilled Worker Visa for the first time.

The Department cannot consider sponsoring you for this role unless you have held a Skilled Worker visa continuously since before 22 July 2025. If you have held a Skilled Worker visa continuously, please raise this during your vetting checks and eligibility will be assessed in accordance with the immigration rules and transitional provisions in place.

If you are applying for this role and you do not meet the new eligibility criteria for sponsorship (or the transitional provisions), you will need to consider your options for obtaining and/or maintaining your right to work in the UK in light of these changes. Successful applicants must ensure they have and maintain the legal right to live and work in the Civil Service and in the United Kingdom.

The Department will continue to comply with UK Immigration Rules applied in the UK and Civil Service. You can read more about Skilled Worker visas and the eligibility criteria here.

Fixed Term Appointments (FTA) on Promotion
MoJ employees may apply for FTA opportunities in MoJ that are advertised at a higher grade than their current substantive grade. Where an employee accepts an FTA on promotion, this promotion will be temporary, and the employee will revert to their substantive grade upon return to their home business area, as per the loan policy for OGD loans. Before applying, employees must seek approval from their line managers to ensure they can be released for the duration of the FTA and can return to their substantive role at the end. If there is no role available at the end of the FTA, the employee will be subject to redeployment and potentially redundancy procedures.

Loans

The terms of the loan will be agreed between the home and host department and the Civil Servant. This includes grade on return. Prior agreement to be released on a loan basis should be obtained before commencing the application process.

Loans are also available for OGD candidates.

Additional Information

Base Location - Mold Justice Centre, Law Courts, Mold, CH7 1AE

Lead Criterion: Statement of Suitability. A sift based on the statement of suitability may be held if a large number of applications are received.

Occasional travel to Caernarfon Justice Centre, Llanberis Road, Caernarfon LL55 2DF

This is a business-critical role requiring full time hours only.

For further information please see the role profile in the advert before applying.

Welsh Advert

Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.

Mae ein Swyddogion Gweinyddol yn chwarae rôl hollbwysig, gan ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i ddefnyddwyr llys, y farnwriaeth a rheolwyr.

Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu'r llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein llysoedd a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cyrchu cyfiawnder a allai newid bywydau. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.

Eich rôl

Mae Swyddogion Gweinyddol Llys y Goron yn gyfrifol am reoli ffeiliau digidol troseddol i baratoi ar gyfer gwrandawiadau, mae hyn yn ymwneud â gohebiaeth ac ymholiadau cyffredinol.

Mae swyddog Llys y Goron yn ymdrin ag ymholiadau gan asiantaethau cyfiawnder troseddol, cyfreithwyr, bargyfreithwyr a’r cyhoedd a hynny drwy’r post, drwy e-bost, dros y ffôn a wyneb yn wyneb.

Ymdrin ag amrywiaeth lawn o waith troseddol difrifol ynghyd â rheoli rheithwyr.

Byddwch yn cael eich neilltuo i dimau i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i symud achosion yn eu blaenau drwy system y llys/tribiwnlys neu ddarparu cymorth i swyddogaethau eraill o fewn GLlTEF.

Eich sgiliau a phrofiadau

  • Bod yn gyfeillgar ac yn hawdd i siarad ag ef/hi, gan feddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.
  • Gallu cyflawni sawl tasg ar yr un pryd wrth weithio mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym.
  • Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Sgiliau TG, gyda’r gallu i ddysgu ac addasu i dechnolegau a phecynnau meddalwedd gwahanol.
  • Sgiliau trefnu ardderchog.
  • Mae hon yn rôl sy’n seiliedig yn y llys ac sy’n cwmpasu amgylcheddau swyddfa a llys; felly ni fydd gweithio hybrid yn cael ei ystyried.

Rhagor o fanylion:

Mae’r swyddi gweithredol hyn yn wynebu cwsmeriaid, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i'r cyhoedd. Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, gweithio’n hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, gweithio’n hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Maen Prawf Arweiniol: Datganiad o Addasrwydd. Gellir cynnal sifftio yn seiliedig ar y datganiad addasrwydd os derbynnir nifer fawr o geisiadau.

Medrus - Nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer fisas Gweithiwr Medrus newydd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol.

O 22 Gorffennaf 2025, cynyddodd y Llywodraeth y trothwy cyflog a’r lefel sgiliau ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus. Nid yw'r rôl hon yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer nawdd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol os ydych chi'n edrych i wneud cais am fisa gweithiwr medrus am y tro cyntaf.

Ni all yr Adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon oni bai eich bod wedi meddu ar fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus ers cyn 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi meddu ar fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn ystod eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â’r rheolau mewnfudo a’r darpariaethau trosiannol sydd ar waith.

Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd (neu’r darpariaethau pontio), bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.

Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU sydd ar waith yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.

Penodiadau Cyfnod Penodol (FTA) ar Ddyrchafiad
Gall gweithwyr MoJ wneud cais am gyfleoedd FTA yn MoJ sydd wedi’u hysbysebu ar raddfa uwch na’u graddfa gyflog bresennol. Lle bo gweithiwr yn derbyn FTA ar ddyrchafiad, bydd y dyrchafiad hwn yn un dros dro, a bydd y gweithiwr yn dychwelyd i’w graddfa gyflog pan fyddant yn dychwelyd i’w maes busnes gwreiddiol, yn unol â’r polisi OGD i weithwyr ar fenthyg. Cyn gwneud cais, rhaid i weithwyr geisio caniatâd gan eu rheolwyr llinell i sicrhau eu bod yn gallu cael eu rhyddhau am gyfnod yr FTA ac yn gallu dychwelyd i’w rôl wreiddiol ar ddiwedd y cyfnod hwn. Os nad oes rôl ar gael ar ddiwedd cyfnod yr FTA, bydd y gweithiwr yn destun proses adleoli ac o bosib, gweithdrefnau diswyddo.

Gweithio ar fenthyg

Bydd telerau’r cyfnod y bydd gweithiwr ar fenthyg yn cael eu cytuno rhwng yr adran wreiddiol a’r adran newydd a’r Gwas Sifil. Mae hyn yn cynnwys cytuno ar raddfa pan fydd yn dychwelyd. Dylid cael caniatâd ymlaen llaw i ryddhau gweithiwr ar fenthyg cyn dechrau’r broses ymgeisio.

Mae ymgeiswyr OGD hefyd yn gallu symud i rolau ar fenthyg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Lleoliad Sylfaenol – Canolfan Gyfiawnder yr Wyddgrug, Llysoedd y Gyfraith, Yr Wyddgrug, CH7 1AE

Meini Prawf Arweiniol: Datganiad o Addasrwydd. Gellir cynnal sift yn seiliedig ar y datganiad o addasrwydd os derbynnir nifer fawr o geisiadau.

Teithio achlysurol i Ganolfan Gyfiawnder Caernarfon, Heol Llanberis, Caernarfon LL55 2DF

Mae hon yn rôl hanfodol i’r busnes sy’n gof yn am oriau llawn amser yn unig.

Am swydd ddisgrifiad llawn, gweler y ddogfen ategol yn yr hysbyseb isod cyn gwneud cais.

Is there something wrong with this job listing? Let us know.